Eich diogelwch yn Benar
Ym Mythynnod Benar, mae eich diogelwch chi o’r pwys mwyaf i ni. Mae pob un o’r bythynnod yma yn saff a diogel iawn.
Ar 1 Hydref 2023, daeth rheoliadau diogelwch tân newydd i rym ac rydym wedi cyflogi asesydd risg tân cymwys i sicrhau bod y bythynnod yn cydymffurfio â’r rheoliadau newydd hyn. Rydym yn gofyn i chi ddarllen y wybodaeth ganlynol:
Gwybodaeth bwysig am ddiogelwch tân i’r rhai sydd â phlant ifanc, anawsterau dysgu neu broblemau symud:
Os byddwch chi’n aros ym Mwthyn Rhosyn, Bwthyn Meillion neu’r Llaethdy yna mae’n rhaid i ni eich gwneud chi’n ymwybodol o’r canlynol: Os bydd tân, efallai y bydd angen defnyddio ffenestr llawr gwaelod mawr yn yr ystafell wely fel ffordd o ddianc. Ar adeg archebu, rhaid i chi sicrhau bod pob aelod o’ch grŵp yn ddigon ystwyth ac yn gallu deall sut i ddefnyddio ffenestr dianc heb gymorth neu gyda chymorth rhywun sy’n cysgu yn yr un ystafell wely.
